6 A'r gwŷr ieuainc a gyfodasant, ac a'i cymerasant ef, ac a'i dygasant allan, ac a'i claddasant.
7 A bu megis ysbaid tair awr, a'i wraig ef, heb wybod y peth a wnaethid, a ddaeth i mewn.
8 A Phedr a atebodd iddi, Dywed di i mi, Ai er cymaint y gwerthasoch chwi y tir? Hithau a ddywedodd, Ie, er cymaint.
9 A Phedr a ddywedodd wrthi, Paham y cytunasoch i demtio Ysbryd yr Arglwydd? wele draed y rhai a gladdasant dy ŵr di wrth y drws, a hwy a'th ddygant dithau allan.
10 Ac yn y man hi a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a drengodd: a'r gwŷr ieuainc wedi dyfod i mewn, a'i cawsant hi yn farw; ac wedi iddynt ei dwyn hi allan, hwy a'i claddasant hi yn ymyl ei gŵr.
11 A bu ofn mawr ar yr holl eglwys, ac ar bawb oll a glybu'r pethau hyn.
12 A thrwy ddwylo'r apostolion y gwnaed arwyddion a rhyfeddodau lawer ymhlith y bobl; (ac yr oeddynt oll yn gytûn ym mhorth Solomon.