9 A Phedr a ddywedodd wrthi, Paham y cytunasoch i demtio Ysbryd yr Arglwydd? wele draed y rhai a gladdasant dy ŵr di wrth y drws, a hwy a'th ddygant dithau allan.
10 Ac yn y man hi a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a drengodd: a'r gwŷr ieuainc wedi dyfod i mewn, a'i cawsant hi yn farw; ac wedi iddynt ei dwyn hi allan, hwy a'i claddasant hi yn ymyl ei gŵr.
11 A bu ofn mawr ar yr holl eglwys, ac ar bawb oll a glybu'r pethau hyn.
12 A thrwy ddwylo'r apostolion y gwnaed arwyddion a rhyfeddodau lawer ymhlith y bobl; (ac yr oeddynt oll yn gytûn ym mhorth Solomon.
13 Eithr ni feiddiai neb o'r lleill ymgysylltu â hwynt: ond y bobl oedd yn eu mawrhau.
14 A chwanegwyd atynt rai yn credu yn yr Arglwydd, lliaws o wŷr a gwragedd hefyd:)
15 Hyd oni ddygent y rhai cleifion allan ar hyd yr heolydd, a'u gosod ar welyau a glythau, fel o'r hyn lleiaf y cysgodai cysgod Pedr, pan ddelai heibio, rai ohonynt.