1 Ac yn y dyddiau hynny, a'r disgyblion yn amlhau, bu grwgnach gan y Groegiaid yn erbyn yr Hebreaid, am ddirmygu eu gwragedd gweddwon hwy yn y weinidogaeth feunyddiol.
2 Yna y deuddeg a alwasant ynghyd y lliaws disgyblion, ac a ddywedasant, Nid yw gymesur i ni adael gair Duw, a gwasanaethu byrddau.
3 Am hynny, frodyr, edrychwch yn eich plith am seithwyr da eu gair, yn llawn o'r Ysbryd Glân a doethineb, y rhai a osodom ar hyn o orchwyl.
4 Eithr ni a barhawn mewn gweddi a gweinidogaeth y gair.
5 A bodlon fu'r ymadrodd gan yr holl liaws: a hwy a etholasant Steffan, gŵr llawn o ffydd ac o'r Ysbryd Glân, a Philip, a Phrochorus, a Nicanor, a Thimon, a Pharmenas, a Nicolas, proselyt o Antiochia: