10 Ac ni allent wrthwynebu'r doethineb a'r ysbryd trwy yr hwn yr oedd efe yn llefaru.
11 Yna y gosodasant wŷr i ddywedyd, Nyni a'i clywsom ef yn dywedyd geiriau cablaidd yn erbyn Moses a Duw.
12 A hwy a gynyrfasant y bobl, a'r henuriaid, a'r ysgrifenyddion; a chan ddyfod arno, a'i cipiasant ef, ac a'i dygasant i'r gynghorfa;
13 Ac a osodasant gau dystion, y rhai a ddywedent, Nid yw'r dyn hwn yn peidio â dywedyd cableiriau yn erbyn y lle sanctaidd hwn, a'r gyfraith:
14 Canys nyni a'i clywsom ef yn dywedyd, y distrywiai yr Iesu hwn o Nasareth y lle yma, ac y newidiai efe y defodau a draddododd Moses i ni.
15 Ac fel yr oedd yr holl rai a eisteddent yn y cyngor yn dal sylw arno, hwy a welent ei wyneb ef fel wyneb angel.