4 Eithr ni a barhawn mewn gweddi a gweinidogaeth y gair.
5 A bodlon fu'r ymadrodd gan yr holl liaws: a hwy a etholasant Steffan, gŵr llawn o ffydd ac o'r Ysbryd Glân, a Philip, a Phrochorus, a Nicanor, a Thimon, a Pharmenas, a Nicolas, proselyt o Antiochia:
6 Y rhai a osodasant hwy gerbron yr apostolion; ac wedi iddynt weddïo, hwy a ddodasant eu dwylo arnynt hwy.
7 A gair Duw a gynyddodd; a rhifedi'r disgyblion yn Jerwsalem a amlhaodd yn ddirfawr, a thyrfa fawr o'r offeiriaid a ufuddhasant i'r ffydd.
8 Eithr Steffan, yn llawn ffydd a nerth, a wnaeth ryfeddodau ac arwyddion mawrion ymhlith y bobl.
9 Yna y cyfododd rhai o'r synagog a elwir eiddo y Libertiniaid, a'r Cyreniaid, a'r Alexandriaid, a'r rhai o Cilicia, ac o Asia, gan ymddadlau â Steffan:
10 Ac ni allent wrthwynebu'r doethineb a'r ysbryd trwy yr hwn yr oedd efe yn llefaru.