1 Yna y dywedodd yr archoffeiriad, A ydyw'r pethau hyn felly?
2 Yntau a ddywedodd, Ha wŷr, frodyr, a thadau, gwrandewch: Duw y gogoniant a ymddangosodd i'n tad Abraham, pan oedd efe ym Mesopotamia, cyn iddo drigo yn Charran;
3 Ac a ddywedodd wrtho, Dos allan o'th wlad, ac oddi wrth dy dylwyth, a thyred i'r tir a ddangoswyf i ti.
4 Yna y daeth efe allan o dir y Caldeaid, ac y preswyliodd yn Charran: ac oddi yno, wedi marw ei dad, efe a'i symudodd ef i'r tir yma, yn yr hwn yr ydych chwi yn preswylio yr awr hon.
5 Ac ni roes iddo etifeddiaeth ynddo, naddo led troed; ac efe a addawodd ei roddi iddo i'w feddiannu, ac i'w had ar ei ôl, pryd nad oedd plentyn iddo.
6 A Duw a lefarodd fel hyn; Dy had di a fydd ymdeithydd mewn gwlad ddieithr, a hwy a'i caethiwant ef, ac a'i drygant, bedwar can mlynedd.
7 Eithr y genedl yr hon a wasanaethant hwy, a farnaf fi, medd Duw: ac wedi hynny y deuant allan, ac a'm gwasanaethant i yn y lle hwn.