15 Felly yr aeth Jacob i waered i'r Aifft, ac a fu farw, efe a'n tadau hefyd.
16 A hwy a symudwyd i Sichem, ac a ddodwyd yn y bedd a brynasai Abraham er arian gan feibion Emor tad Sichem.
17 A phan nesaodd amser yr addewid, yr hwn a dyngasai Duw i Abraham, y bobl a gynyddodd ac a amlhaodd yn yr Aifft,
18 Hyd oni chyfododd brenin arall, yr hwn nid adwaenai mo Joseff.
19 Hwn a fu ddichellgar wrth ein cenedl ni, ac a ddrygodd ein tadau, gan beri iddynt fwrw allan eu plant, fel nad epilient.
20 Ar yr hwn amser y ganwyd Moses; ac efe oedd dlws i Dduw, ac a fagwyd dri mis yn nhŷ ei dad.
21 Ac wedi ei fwrw ef allan, merch Pharo a'i cyfododd ef i fyny, ac a'i magodd ef yn fab iddi ei hun.