21 Ac wedi ei fwrw ef allan, merch Pharo a'i cyfododd ef i fyny, ac a'i magodd ef yn fab iddi ei hun.
22 A Moses oedd ddysgedig yn holl ddoethineb yr Eifftiaid, ac oedd nerthol mewn geiriau ac mewn gweithredoedd.
23 A phan oedd efe yn llawn deugain mlwydd oed, daeth i'w galon ef ymweled â'i frodyr plant yr Israel.
24 A phan welodd efe un yn cael cam, efe a'i hamddiffynnodd ef, ac a ddialodd gam yr hwn a orthrymid, gan daro'r Eifftiwr.
25 Ac efe a dybiodd fod ei frodyr yn deall, fod Duw yn rhoddi iachawdwriaeth iddynt trwy ei law ef; eithr hwynt‐hwy ni ddeallasant.
26 A'r dydd nesaf yr ymddangosodd efe iddynt, a hwy yn ymrafaelio, ac a'u hanogodd hwynt i heddychu, gan ddywedyd, Ha wŷr, brodyr ydych chwi; paham y gwnewch gam â'ch gilydd?
27 Ond yr hwn oedd yn gwneuthur cam â'i gymydog, a'i cilgwthiodd ef, gan ddywedyd, Pwy a'th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr arnom ni?