24 A phan welodd efe un yn cael cam, efe a'i hamddiffynnodd ef, ac a ddialodd gam yr hwn a orthrymid, gan daro'r Eifftiwr.
25 Ac efe a dybiodd fod ei frodyr yn deall, fod Duw yn rhoddi iachawdwriaeth iddynt trwy ei law ef; eithr hwynt‐hwy ni ddeallasant.
26 A'r dydd nesaf yr ymddangosodd efe iddynt, a hwy yn ymrafaelio, ac a'u hanogodd hwynt i heddychu, gan ddywedyd, Ha wŷr, brodyr ydych chwi; paham y gwnewch gam â'ch gilydd?
27 Ond yr hwn oedd yn gwneuthur cam â'i gymydog, a'i cilgwthiodd ef, gan ddywedyd, Pwy a'th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr arnom ni?
28 A leddi di fi, y modd y lleddaist yr Eifftiwr ddoe?
29 A Moses a ffodd ar y gair hwn, ac a fu ddieithr yn nhir Midian; lle y cenhedlodd efe ddau o feibion.
30 Ac wedi cyflawni deugain mlynedd, yr ymddangosodd iddo yn anialwch mynydd Seina, angel yr Arglwydd mewn fflam dân mewn perth.