27 Ond yr hwn oedd yn gwneuthur cam â'i gymydog, a'i cilgwthiodd ef, gan ddywedyd, Pwy a'th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr arnom ni?
28 A leddi di fi, y modd y lleddaist yr Eifftiwr ddoe?
29 A Moses a ffodd ar y gair hwn, ac a fu ddieithr yn nhir Midian; lle y cenhedlodd efe ddau o feibion.
30 Ac wedi cyflawni deugain mlynedd, yr ymddangosodd iddo yn anialwch mynydd Seina, angel yr Arglwydd mewn fflam dân mewn perth.
31 A Moses, pan welodd, a fu ryfedd ganddo y golwg: a phan nesaodd i ystyried, daeth llef yr Arglwydd ato, gan ddywedyd,
32 Myfi yw Duw dy dadau, Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob. A Moses, wedi myned yn ddychrynedig, ni feiddiai ystyried.
33 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrtho, Datod dy esgidiau oddi am dy draed; canys y lle yr wyt yn sefyll ynddo sydd dir sanctaidd.