31 A Moses, pan welodd, a fu ryfedd ganddo y golwg: a phan nesaodd i ystyried, daeth llef yr Arglwydd ato, gan ddywedyd,
32 Myfi yw Duw dy dadau, Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob. A Moses, wedi myned yn ddychrynedig, ni feiddiai ystyried.
33 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrtho, Datod dy esgidiau oddi am dy draed; canys y lle yr wyt yn sefyll ynddo sydd dir sanctaidd.
34 Gan weled y gwelais ddrygfyd fy mhobl y rhai sydd yn yr Aifft, a mi a glywais eu griddfan, ac a ddisgynnais i'w gwared hwy. Ac yn awr tyred, mi a'th anfonaf di i'r Aifft.
35 Y Moses yma, yr hwn a wrthodasant hwy, gan ddywedyd, Pwy a'th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr? hwn a anfonodd Duw yn llywydd ac yn waredwr, trwy law yr angel, yr hwn a ymddangosodd iddo yn y berth.
36 Hwn a'u harweiniodd hwynt allan, gan wneuthur rhyfeddodau ac arwyddion yn nhir yr Aifft, ac yn y môr coch, ac yn y diffeithwch ddeugain mlynedd.
37 Hwn yw'r Moses a ddywedodd i feibion Israel, Proffwyd a gyfyd yr Arglwydd eich Duw i chwi o'ch brodyr fel myfi: arno ef y gwrandewch.