37 Hwn yw'r Moses a ddywedodd i feibion Israel, Proffwyd a gyfyd yr Arglwydd eich Duw i chwi o'ch brodyr fel myfi: arno ef y gwrandewch.
38 Hwn yw efe a fu yn yr eglwys yn y diffeithwch, gyda'r angel a ymddiddanodd ag ef ym mynydd Seina, ac â'n tadau ni; yr hwn a dderbyniodd ymadroddion bywiol i'w rhoddi i ni.
39 Yr hwn ni fynnai ein tadau fod yn ufudd iddo, eithr cilgwthiasant ef, a throesant yn eu calonnau i'r Aifft,
40 Gan ddywedyd wrth Aaron, Gwna i ni dduwiau i'n blaenori: oblegid y Moses yma, yr hwn a'n dug ni allan o dir yr Aifft, ni wyddom ni beth a ddigwyddodd iddo.
41 A hwy a wnaethant lo yn y dyddiau hynny, ac a offrymasant aberth i'r eilun, ac a ymlawenhasant yng ngweithredoedd eu dwylo eu hun.
42 Yna y trodd Duw, ac a'u rhoddes hwy i fyny i wasanaethu llu'r nef; fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr y proffwydi, A offrymasoch i mi laddedigion ac aberthau ddeugain mlynedd yn yr anialwch, chwi tŷ Israel?
43 A chwi a gymerasoch babell Moloch, a seren eich duw Remffan, lluniau y rhai a wnaethoch i'w haddoli: minnau a'ch symudaf chwi tu hwnt i Fabilon.