39 Yr hwn ni fynnai ein tadau fod yn ufudd iddo, eithr cilgwthiasant ef, a throesant yn eu calonnau i'r Aifft,
40 Gan ddywedyd wrth Aaron, Gwna i ni dduwiau i'n blaenori: oblegid y Moses yma, yr hwn a'n dug ni allan o dir yr Aifft, ni wyddom ni beth a ddigwyddodd iddo.
41 A hwy a wnaethant lo yn y dyddiau hynny, ac a offrymasant aberth i'r eilun, ac a ymlawenhasant yng ngweithredoedd eu dwylo eu hun.
42 Yna y trodd Duw, ac a'u rhoddes hwy i fyny i wasanaethu llu'r nef; fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr y proffwydi, A offrymasoch i mi laddedigion ac aberthau ddeugain mlynedd yn yr anialwch, chwi tŷ Israel?
43 A chwi a gymerasoch babell Moloch, a seren eich duw Remffan, lluniau y rhai a wnaethoch i'w haddoli: minnau a'ch symudaf chwi tu hwnt i Fabilon.
44 Tabernacl y dystiolaeth oedd ymhlith ein tadau yn yr anialwch, fel y gorchmynasai yr hwn a ddywedai wrth Moses, am ei wneuthur ef yn ôl y portreiad a welsai.
45 Yr hwn a ddarfu i'n tadau ni ei gymryd, a'i ddwyn i mewn gydag Iesu i berchenogaeth y Cenhedloedd, y rhai a yrrodd Duw allan o flaen ein tadau, hyd yn nyddiau Dafydd;