48 Ond nid yw'r Goruchaf yn trigo mewn temlau o waith dwylo; fel y mae'r proffwyd yn dywedyd,
49 Y nef yw fy ngorseddfainc, a'r ddaear yw troedfainc fy nhraed. Pa dŷ a adeiledwch i mi? medd yr Arglwydd; neu pa le fydd i'm gorffwysfa i?
50 Onid fy llaw i a wnaeth hyn oll?
51 Chwi rai gwargaled, a dienwaededig o galon ac o glustiau, yr ydych chwi yn wastad yn gwrthwynebu'r Ysbryd Glân: megis eich tadau, felly chwithau.
52 Pa un o'r proffwydi ni ddarfu i'ch tadau chwi ei erlid? a hwy a laddasant y rhai oedd yn rhagfynegi dyfodiad y Cyfiawn, i'r hwn yr awron y buoch chwi fradwyr a llofruddion:
53 Y rhai a dderbyniasoch y gyfraith trwy drefniad angylion, ac nis cadwasoch.
54 A phan glywsant hwy'r pethau hyn, hwy a ffromasant yn eu calonnau, ac a ysgyrnygasant ddannedd arno.