5 Ac ni roes iddo etifeddiaeth ynddo, naddo led troed; ac efe a addawodd ei roddi iddo i'w feddiannu, ac i'w had ar ei ôl, pryd nad oedd plentyn iddo.
6 A Duw a lefarodd fel hyn; Dy had di a fydd ymdeithydd mewn gwlad ddieithr, a hwy a'i caethiwant ef, ac a'i drygant, bedwar can mlynedd.
7 Eithr y genedl yr hon a wasanaethant hwy, a farnaf fi, medd Duw: ac wedi hynny y deuant allan, ac a'm gwasanaethant i yn y lle hwn.
8 Ac efe a roddes iddo gyfamod yr enwaediad. Felly Abraham a genhedlodd Isaac, ac a enwaedodd arno yr wythfed dydd: ac Isaac a genhedlodd Jacob; a Jacob a genhedlodd y deuddeg patriarch.
9 A'r patrieirch, gan genfigennu, a werthasant Joseff i'r Aifft: ond yr oedd Duw gydag ef,
10 Ac a'i hachubodd ef o'i holl orthrymderau, ac a roes iddo hawddgarwch a doethineb yng ngolwg Pharo brenin yr Aifft; ac efe a'i gosododd ef yn llywodraethwr ar yr Aifft, ac ar ei holl dŷ.
11 Ac fe ddaeth newyn dros holl dir yr Aifft a Chanaan, a gorthrymder mawr; a'n tadau ni chawsant luniaeth.