53 Y rhai a dderbyniasoch y gyfraith trwy drefniad angylion, ac nis cadwasoch.
54 A phan glywsant hwy'r pethau hyn, hwy a ffromasant yn eu calonnau, ac a ysgyrnygasant ddannedd arno.
55 Ac efe, yn gyflawn o'r Ysbryd Glân, a edrychodd yn ddyfal tua'r nef; ac a welodd ogoniant Duw, a'r Iesu yn sefyll ar ddeheulaw Duw.
56 Ac efe a ddywedodd, Wele, mi a welaf y nefoedd yn agored, a Mab y dyn yn sefyll ar ddeheulaw Duw.
57 Yna y gwaeddasant â llef uchel, ac a gaeasant eu clustiau, ac a ruthrasant yn unfryd arno,
58 Ac a'i bwriasant allan o'r ddinas, ac a'i llabyddiasant: a'r tystion a ddodasant eu dillad wrth draed dyn ieuanc a elwid Saul.
59 A hwy a labyddiasant Steffan, ac efe yn galw ar Dduw, ac yn dywedyd, Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd.