57 Yna y gwaeddasant â llef uchel, ac a gaeasant eu clustiau, ac a ruthrasant yn unfryd arno,
58 Ac a'i bwriasant allan o'r ddinas, ac a'i llabyddiasant: a'r tystion a ddodasant eu dillad wrth draed dyn ieuanc a elwid Saul.
59 A hwy a labyddiasant Steffan, ac efe yn galw ar Dduw, ac yn dywedyd, Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd.
60 Ac efe a ostyngodd ar ei liniau, ac a lefodd â llef uchel, Arglwydd, na ddod y pechod hwn yn eu herbyn. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a hunodd.