9 A'r patrieirch, gan genfigennu, a werthasant Joseff i'r Aifft: ond yr oedd Duw gydag ef,
10 Ac a'i hachubodd ef o'i holl orthrymderau, ac a roes iddo hawddgarwch a doethineb yng ngolwg Pharo brenin yr Aifft; ac efe a'i gosododd ef yn llywodraethwr ar yr Aifft, ac ar ei holl dŷ.
11 Ac fe ddaeth newyn dros holl dir yr Aifft a Chanaan, a gorthrymder mawr; a'n tadau ni chawsant luniaeth.
12 Ond pan glybu Jacob fod ŷd yn yr Aifft, efe a anfonodd ein tadau ni allan yn gyntaf.
13 A'r ail waith yr adnabuwyd Joseff gan ei frodyr; a chenedl Joseff a aeth yn hysbys i Pharo.
14 Yna yr anfonodd Joseff, ac a gyrchodd ei dad Jacob, a'i holl genedl, pymtheg enaid a thrigain.
15 Felly yr aeth Jacob i waered i'r Aifft, ac a fu farw, efe a'n tadau hefyd.