20 Eithr Pedr a ddywedodd wrtho, Bydded dy arian gyda thi i ddistryw, am i ti dybied y meddiennir dawn Duw trwy arian.
21 Nid oes i ti na rhan na chyfran yn y gorchwyl hwn: canys nid yw dy galon di yn uniawn gerbron Duw.
22 Edifarha gan hynny am dy ddrygioni hwn, a gweddïa Dduw, a faddeuir i ti feddylfryd dy galon.
23 Canys mi a'th welaf mewn bustl chwerwder, ac mewn rhwymedigaeth anwiredd.
24 A Simon a atebodd ac a ddywedodd, Gweddïwch chwi drosof fi at yr Arglwydd, fel na ddêl dim arnaf o'r pethau a ddywedasoch.
25 Ac wedi iddynt dystiolaethu a llefaru gair yr Arglwydd, hwy a ddychwelasant i Jerwsalem, ac a bregethasant yr efengyl yn llawer o bentrefi'r Samariaid.
26 Ac angel yr Arglwydd a lefarodd wrth Philip, gan ddywedyd, Cyfod, a dos tua'r deau, i'r ffordd sydd yn myned i waered o Jerwsalem i Gasa, yr hon sydd anghyfannedd.