30 A Philip a redodd ato, ac a'i clybu ef yn darllen y proffwyd Eseias; ac a ddywedodd, A wyt ti yn deall y pethau yr wyt yn eu darllen?
31 Ac efe a ddywedodd, Pa fodd y gallaf, oddieithr i rywun fy nghyfarwyddo i? Ac efe a ddymunodd ar Philip ddyfod i fyny, ac eistedd gydag ef.
32 A'r lle o'r ysgrythur yr oedd efe yn ei ddarllen, oedd hwn, Fel dafad i'r lladdfa yr arweiniwyd ef; ac fel oen gerbron ei gneifiwr yn fud, felly nid agorodd efe ei enau:
33 Yn ei ostyngiad, ei farn ef a dynnwyd ymaith: eithr pwy a draetha ei genhedlaeth ef? oblegid dygir ei fywyd ef oddi ar y ddaear.
34 A'r eunuch a atebodd Philip, ac a ddywedodd, Atolwg i ti, am bwy y mae'r proffwyd yn dywedyd hyn? amdano'i hun, ai am ryw un arall?
35 A Philip a agorodd ei enau, ac a ddechreuodd ar yr ysgrythur honno, ac a bregethodd iddo yr Iesu.
36 Ac fel yr oeddynt yn myned ar hyd y ffordd, hwy a ddaethant at ryw ddwfr. A'r eunuch a ddywedodd, Wele ddwfr; beth sydd yn lluddias fy medyddio?