37 A Philip a ddywedodd, Os wyt ti yn credu â'th holl galon, fe a ellir. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yr wyf yn credu fod Iesu Grist yn Fab Duw.
38 Ac efe a orchmynnodd sefyll o'r cerbyd: a hwy a aethant i waered ill dau i'r dwfr, Philip a'r eunuch; ac efe a'i bedyddiodd ef.
39 A phan ddaethant i fyny o'r dwfr, Ysbryd yr Arglwydd a gipiodd Philip ymaith, ac ni welodd yr eunuch ef mwyach: ac efe a aeth ar hyd ei ffordd ei hun yn llawen.
40 Eithr Philip a gaed yn Asotus: a chan dramwy, efe a efengylodd ym mhob dinas hyd oni ddaeth efe i Cesarea.