4 A'r rhai a wasgarasid a dramwyasant gan bregethu y gair.
5 Yna Philip a aeth i waered i ddinas Samaria, ac a bregethodd Grist iddynt.
6 A'r bobl yn gytûn a ddaliodd ar y pethau a ddywedid gan Philip, wrth glywed ohonynt, a gweled yr arwyddion yr oedd efe yn eu gwneuthur.
7 Canys ysbrydion aflan, gan lefain â llef uchel, a aethant allan o lawer a berchenogid ganddynt; a llawer yn gleifion o'r parlys, ac yn gloffion, a iachawyd.
8 Ac yr oedd llawenydd mawr yn y ddinas honno.
9 Eithr rhyw ŵr a'i enw Simon, oedd o'r blaen yn y ddinas yn swyno ac yn hudo pobl Samaria, gan ddywedyd ei fod ef ei hun yn rhywun mawr:
10 Ar yr hwn yr oedd pawb, o'r lleiaf hyd y mwyaf, yn gwrando, gan ddywedyd, Mawr allu Duw yw hwn.