8 Ac yr oedd llawenydd mawr yn y ddinas honno.
9 Eithr rhyw ŵr a'i enw Simon, oedd o'r blaen yn y ddinas yn swyno ac yn hudo pobl Samaria, gan ddywedyd ei fod ef ei hun yn rhywun mawr:
10 Ar yr hwn yr oedd pawb, o'r lleiaf hyd y mwyaf, yn gwrando, gan ddywedyd, Mawr allu Duw yw hwn.
11 Ac yr oeddynt â'u coel arno, oherwydd iddo dalm o amser eu hudo hwy â swynion.
12 Eithr pan gredasant i Philip, yn pregethu'r pethau a berthynent i deyrnas Dduw, ac i enw Iesu Grist, hwy a fedyddiwyd, yn wŷr ac yn wragedd.
13 A Simon yntau hefyd a gredodd; ac wedi ei fedyddio, a lynodd wrth Philip: a synnodd arno wrth weled yr arwyddion a'r nerthoedd mawrion a wneid.
14 A phan glybu'r apostolion yn Jerwsalem, dderbyn o Samaria air Duw, hwy a anfonasant atynt Pedr ac Ioan: