1 Ac wedi galw ei ddeuddeg disgybl ato, efe a roddes iddynt awdurdod yn erbyn ysbrydion aflan, i'w bwrw hwynt allan, ac i iacháu pob clefyd a phob afiechyd.
2 Ac enwau'r deuddeg apostolion yw'r rhai hyn: Y cyntaf, Simon, yr hwn a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd; Iago mab Sebedeus, ac Ioan ei frawd;
3 Philip, a Bartholomeus; Thomas, a Mathew y publican; Iago mab Alffeus, a Lebeus, yr hwn a gyfenwid Thadeus;
4 Simon y Canaanead, a Jwdas Iscariot, yr hwn hefyd a'i bradychodd ef.
5 Y deuddeg hyn a anfonodd yr Iesu, ac a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Nac ewch i ffordd y Cenhedloedd, ac i ddinas y Samariaid nac ewch i mewn:
6 Eithr ewch yn hytrach at gyfrgolledig ddefaid tŷ Israel.
7 Ac wrth fyned, pregethwch, gan ddywedyd, Fod teyrnas nefoedd yn nesáu.