Mathew 17 BWM

1 Ac ar ôl chwe diwrnod y cymerodd yr Iesu Pedr, ac Iago, ac Ioan ei frawd, ac a'u dug hwy i fynydd uchel o'r neilltu;

2 A gweddnewidiwyd ef ger eu bron hwy: a'i wyneb a ddisgleiriodd fel yr haul, a'i ddillad oedd cyn wynned â'r goleuni.

3 Ac wele, Moses ac Eleias a ymddangosodd iddynt, yn ymddiddan ag ef.

4 A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu, O Arglwydd, da yw i ni fod yma: os ewyllysi, gwnawn yma dair pabell; un i ti, ac un i Moses, ac un i Eleias.

5 Ac efe eto yn llefaru, wele, cwmwl golau a'u cysgododd hwynt: ac wele, lef o'r cwmwl, yn dywedyd, Hwn yw fy annwyl Fab, yn yr hwn y'm bodlonwyd: gwrandewch arno ef.

6 A phan glybu'r disgyblion hynny: hwy a syrthiasant ar eu hwyneb, ac a ofnasant yn ddirfawr.

7 A daeth yr Iesu, ac a gyffyrddodd â hwynt, ac a ddywedodd, Cyfodwch, ac nac ofnwch.

8 Ac wedi iddynt ddyrchafu eu llygaid, ni welsant neb ond yr Iesu yn unig.

9 Ac fel yr oeddynt yn disgyn o'r mynydd, gorchmynnodd yr Iesu iddynt, gan ddywedyd, Na ddywedwch y weledigaeth i neb, hyd oni atgyfodo Mab y dyn o feirw.

10 A'i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Paham gan hynny y mae'r ysgrifenyddion yn dywedyd, fod yn rhaid dyfod o Eleias yn gyntaf?

11 A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Eleias yn wir a ddaw yn gyntaf, ac a adfer bob peth.

12 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, ddyfod o Eleias eisoes: ac nad adnabuant hwy ef, ond gwneuthur ohonynt iddo beth bynnag a fynasant: felly y bydd hefyd i Fab y dyn ddioddef ganddynt hwy.

13 Yna y deallodd y disgyblion mai am Ioan Fedyddiwr y dywedasai efe wrthynt.

14 Ac wedi eu dyfod hwy at y dyrfa, daeth ato ryw ddyn, ac a ostyngodd iddo ar ei liniau,

15 Ac a ddywedodd, Arglwydd, trugarha wrth fy mab, oblegid y mae efe yn lloerig, ac yn flin arno: canys y mae efe yn syrthio yn y tân yn fynych, ac yn y dwfr yn fynych.

16 Ac mi a'i dygais ef at dy ddisgyblion di, ac ni allent hwy ei iacháu ef.

17 A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlon a throfaus, pa hyd y byddaf gyda chwi? pa hyd y dioddefaf chwi? dygwch ef yma ataf fi.

18 A'r Iesu a geryddodd y cythraul; ac efe a aeth allan ohono: a'r bachgen a iachawyd o'r awr honno.

19 Yna y daeth y disgyblion at yr Iesu o'r neilltu, ac y dywedasant, Paham na allem ni ei fwrw ef allan?

20 A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Oblegid eich anghrediniaeth: canys yn wir y dywedaf i chwi, Pe bai gennych ffydd megis gronyn o had mwstard, chwi a ddywedech wrth y mynydd hwn, Symud oddi yma draw; ac efe a symudai: ac ni bydd dim amhosibl i chwi.

21 Eithr nid â'r rhywogaeth hyn allan, ond trwy weddi ac ympryd.

22 Ac fel yr oeddynt hwy yn aros yng Ngalilea, dywedodd yr Iesu wrthynt, Mab y dyn a draddodir i ddwylo dynion:

23 A hwy a'i lladdant; a'r trydydd dydd y cyfyd efe. A hwy a aethant yn drist iawn.

24 Ac wedi dyfod ohonynt i Gapernaum, y rhai oedd yn derbyn arian y deyrnged a ddaethant at Pedr, ac a ddywedasant, Onid yw eich athro chwi yn talu teyrnged?

25 Yntau a ddywedodd, Ydyw. Ac wedi ei ddyfod ef i'r tŷ, yr Iesu a achubodd ei flaen ef, gan ddywedyd, Beth yr wyt ti yn ei dybied, Simon? gan bwy y cymer brenhinoedd y ddaear deyrnged neu dreth? gan eu plant eu hun, ynteu gan estroniaid?

26 Pedr a ddywedodd wrtho, Gan estroniaid. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Gan hynny y mae'r plant yn rhyddion.

27 Er hynny, rhag i ni eu rhwystro hwy, dos i'r môr, a bwrw fach, a chymer y pysgodyn a ddêl i fyny yn gyntaf; ac wedi iti agoryd ei safn, ti a gei ddarn o arian: cymer hwnnw, a dyro iddynt drosof fi a thithau.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28