Mathew 13 BWM

1 Y dydd hwnnw yr aeth yr Iesu allan o'r tŷ, ac yr eisteddodd wrth lan y môr.

2 A thorfeydd lawer a ymgynullasant ato ef, fel yr aeth efe i'r llong, ac yr eisteddodd: a'r holl dyrfa a safodd ar y lan.

3 Ac efe a lefarodd wrthynt lawer o bethau trwy ddamhegion, gan ddywedyd, Wele, yr heuwr a aeth allan i hau.

4 Ac fel yr oedd efe yn hau, peth a syrthiodd ar fin y ffordd; a'r adar a ddaethant, ac a'i difasant.

5 Peth arall a syrthiodd ar greigleoedd, lle ni chawsant fawr ddaear: ac yn y man yr eginasant, gan nad oedd iddynt ddyfnder daear:

6 Ac wedi codi yr haul, y poethasant; ac am nad oedd ganddynt wreiddyn, hwy a wywasant.

7 A pheth arall a syrthiodd ymhlith y drain; a'r drain a godasant, ac a'u tagasant hwy.

8 Peth arall hefyd a syrthiodd mewn tir da, ac a ddygasant ffrwyth, peth ar ei ganfed, arall ar ei dri ugeinfed, arall ar ei ddegfed ar hugain.

9 Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.

10 A daeth y disgyblion, ac a ddywedasant wrtho, Paham yr wyt ti yn llefaru wrthynt trwy ddamhegion?

11 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Am roddi i chwi wybod dirgelion teyrnas nefoedd, ac ni roddwyd iddynt hwy.

12 Oblegid pwy bynnag sydd ganddo, i hwnnw y rhoddir, ac efe a gaiff helaethrwydd: eithr pwy bynnag nid oes ganddo, oddi arno ef y dygir, ie, yr hyn sydd ganddo.

13 Am hynny yr ydwyf yn llefaru wrthynt hwy ar ddamhegion: canys a hwy yn gweled, nid ydynt yn gweled; ac yn clywed, nid ydynt yn clywed, nac yn deall.

14 Ac ynddynt hwy y cyflawnir proffwydoliaeth Eseias, yr hon sydd yn dywedyd, Gan glywed y clywch, ac ni ddeellwch; ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch;

15 Canys brasawyd calon y bobl hyn, a hwy a glywsant â'u clustiau yn drwm, ac a gaeasant eu llygaid; rhag canfod â'u llygaid, a chlywed â'u clustiau, a deall â'r galon, a throi, ac i mi eu hiacháu hwynt.

16 Eithr dedwydd yw eich llygaid chwi, am eu bod yn gweled; a'ch clustiau, am eu bod yn clywed:

17 Oblegid yn wir y dywedaf i chwi, chwenychu o lawer o broffwydi a rhai cyfiawn weled y pethau a welwch chwi, ac nis gwelsant; a chlywed yr hyn a glywch chwi, ac nis clywsant.

18 Gwrandewch chwithau gan hynny ddameg yr heuwr.

19 Pan glywo neb air y deyrnas, ac heb ei ddeall, y mae'r drwg yn dyfod, ac yn cipio'r hyn a heuwyd yn ei galon ef. Dyma'r hwn a heuwyd ar fin y ffordd.

20 A'r hwn a heuwyd ar y creigleoedd, yw'r hwn sydd yn gwrando'r gair, ac yn ebrwydd trwy lawenydd yn ei dderbyn;

21 Ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo ei hun, eithr dros amser y mae: a phan ddelo gorthrymder neu erlid oblegid y gair, yn y fan efe a rwystrir.

22 A'r hwn a heuwyd ymhlith y drain, yw'r hwn sydd yn gwrando'r gair; ac y mae gofal y byd hwn, a thwyll cyfoeth, yn tagu'r gair, ac y mae yn myned yn ddiffrwyth.

23 Ond yr hwn a heuwyd yn y tir da, yw'r hwn sydd yn gwrando'r gair, ac yn ei ddeall; sef yr hwn sydd yn ffrwytho, ac yn dwyn peth ei ganfed, arall ei dri ugeinfed, arall ei ddegfed ar hugain.

24 Dameg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd, Teyrnas nefoedd sydd gyffelyb i ddyn a heuodd had da yn ei faes:

25 A thra oedd y dynion yn cysgu, daeth ei elyn ef, ac a heuodd efrau ymhlith y gwenith, ac a aeth ymaith.

26 Ac wedi i'r eginyn dyfu, a dwyn ffrwyth, yna yr ymddangosodd yr efrau hefyd.

27 A gweision gŵr y tŷ a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Arglwydd, oni heuaist ti had da yn dy faes? o ba le gan hynny y mae'r efrau ynddo?

28 Yntau a ddywedodd wrthynt, Y gelyn ddyn a wnaeth hyn. A'r gweision a ddywedasant wrtho, A fynni di gan hynny i ni fyned a'u casglu hwynt?

29 Ac efe a ddywedodd, Na fynnaf; rhag i chwi, wrth gasglu'r efrau, ddiwreiddio'r gwenith gyda hwynt.

30 Gadewch i'r ddau gyd‐dyfu hyd y cynhaeaf: ac yn amser y cynhaeaf y dywedaf wrth y medelwyr, Cesglwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn ysgubau i'w llwyr losgi; ond cesglwch y gwenith i'm hysgubor.

31 Dameg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymerodd dyn ac a'i heuodd yn ei faes:

32 Yr hwn yn wir sydd leiaf o'r holl hadau; ond wedi iddo dyfu, mwyaf un o'r llysiau ydyw, ac y mae efe yn myned yn bren; fel y mae adar y nef yn dyfod, ac yn nythu yn ei gangau ef.

33 Dameg arall a lefarodd efe wrthynt; Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i surdoes, yr hwn a gymerodd gwraig, ac a'i cuddiodd mewn tri phecaid o flawd, hyd oni surodd y cwbl.

34 Hyn oll a lefarodd yr Iesu trwy ddamhegion wrth y torfeydd; ac heb ddameg ni lefarodd efe wrthynt;

35 Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy'r proffwyd, gan ddywedyd, Agoraf fy ngenau mewn damhegion; mynegaf bethau cuddiedig er pan seiliwyd y byd.

36 Yna yr anfonodd yr Iesu y torfeydd ymaith, ac yr aeth i'r tŷ: a'i ddisgyblion a ddaethant ato, gan ddywedyd, Eglura i ni ddameg efrau'r maes.

37 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd yn hau'r had da, yw Mab y dyn;

38 A'r maes yw'r byd; a'r had da, hwynt‐hwy yw plant y deyrnas; a'r efrau yw plant y drwg;

39 A'r gelyn yr hwn a'u heuodd hwynt, yw diafol; a'r cynhaeaf yw diwedd y byd; a'r medelwyr yw'r angylion.

40 Megis gan hynny y cynullir yr efrau, ac a'u llwyr losgir yn tân; felly y bydd yn niwedd y byd hwn.

41 Mab y dyn a ddenfyn ei angylion, a hwy a gynullant allan o'i deyrnas ef yr holl dramgwyddiadau, a'r rhai a wnânt anwiredd;

42 Ac a'u bwriant hwy i'r ffwrn dân: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.

43 Yna y llewyrcha'r rhai cyfiawn fel yr haul, yn nheyrnas eu Tad. Yr hwn sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.

44 Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i drysor wedi ei guddio mewn maes; yr hwn wedi i ddyn ei gaffael, a'i cuddiodd, ac o lawenydd amdano, sydd yn myned ymaith, ac yn gwerthu'r hyn oll a fedd, ac yn prynu'r maes hwnnw.

45 Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i farchnatawr, yn ceisio perlau teg:

46 Yr hwn wedi iddo gaffael un perl gwerthfawr, a aeth, ac a werthodd gymaint oll ag a feddai, ac a'i prynodd ef.

47 Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i rwyd a fwriwyd yn y môr, ac a gasglodd o bob rhyw beth:

48 Yr hon, wedi ei llenwi, a ddygasant i'r lan, ac a eisteddasant, ac a gasglasant y rhai da mewn llestri, ac a fwriasant allan y rhai drwg.

49 Felly y bydd yn niwedd y byd: yr angylion a ânt allan, ac a ddidolant y rhai drwg o blith y rhai cyfiawn,

50 Ac a'u bwriant hwy i'r ffwrn dân: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.

51 Iesu a ddywedodd wrthynt, A ddarfu i chwi ddeall hyn oll? Hwythau a ddywedasant wrtho, Do, Arglwydd.

52 A dywedodd yntau wrthynt, Am hynny pob ysgrifennydd wedi ei ddysgu i deyrnas nefoedd, sydd debyg i ddyn o berchen tŷ, yr hwn sydd yn dwyn allan o'i drysor bethau newydd a hen.

53 A bu, wedi i'r Iesu orffen y damhegion hyn, efe a ymadawodd oddi yno.

54 Ac efe a ddaeth i'w wlad ei hun, ac a'u dysgodd hwynt yn eu synagog; fel y synnodd arnynt, ac y dywedasant, O ba le y daeth y doethineb hwn, a'r gweithredoedd nerthol i'r dyn hwn?

55 Onid hwn yw mab y saer? onid Mair y gelwir ei fam ef? a Iago, a Joses, a Simon, a Jwdas, ei frodyr ef?

56 Ac onid yw ei chwiorydd ef oll gyda ni? o ba le gan hynny y mae gan hwn y pethau hyn oll?

57 A hwy a rwystrwyd ynddo ef. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid yw proffwyd heb anrhydedd, ond yn ei wlad ei hun, ac yn ei dŷ ei hun.

58 Ac ni wnaeth efe nemor o weithredoedd nerthol yno, oblegid eu hanghrediniaeth hwynt.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28