1 Yna yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid, y rhai oedd o Jerwsalem, a ddaethant at yr Iesu, gan ddywedyd,
2 Paham y mae dy ddisgyblion di yn troseddu traddodiad yr hynafiaid? canys nid ydynt yn golchi eu dwylo pan fwytaont fara.
3 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A phaham yr ydych chwi yn troseddu gorchymyn Duw trwy eich traddodiad chwi?
4 Canys Duw a orchmynnodd, gan ddywedyd, Anrhydedda dy dad a'th fam: a'r hwn a felltithio dad neu fam, lladder ef yn farw.
5 Eithr yr ydych chwi yn dywedyd, Pwy bynnag a ddywedo wrth ei dad neu ei fam, Rhodd yw pa beth bynnag y ceit les oddi wrthyf fi, ac nid anrhydeddo ei dad neu ei fam, difai fydd.
6 Ac fel hyn y gwnaethoch orchymyn Duw yn ddirym trwy eich traddodiad eich hun.
7 O ragrithwyr, da y proffwydodd Eseias amdanoch chwi, gan ddywedyd,
8 Nesáu y mae'r bobl hyn ataf â'u genau, a'm hanrhydeddu â'u gwefusau; a'u calon sydd bell oddi wrthyf.
9 Eithr yn ofer y'm hanrhydeddant i, gan ddysgu gorchmynion dynion yn ddysgeidiaeth.
10 Ac wedi iddo alw y dyrfa ato, efe a ddywedodd wrthynt, Clywch, a deellwch.
11 Nid yr hyn sydd yn myned i mewn i'r genau, sydd yn halogi dyn; ond yr hyn sydd yn dyfod allan o'r genau, hynny sydd yn halogi dyn.
12 Yna y daeth ei ddisgyblion ato, ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti ymrwystro o'r Phariseaid wrth glywed yr ymadrodd hwn?
13 Ac yntau a atebodd ac a ddywedodd, Pob planhigyn yr hwn nis plannodd fy Nhad nefol, a ddiwreiddir.
14 Gadewch iddynt: tywysogion deillion i'r deillion ydynt. Ac os y dall a dywys y dall, y ddau a syrthiant yn y ffos.
15 A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Eglura i ni'r ddameg hon.
16 A dywedodd yr Iesu, A ydych chwithau eto heb ddeall?
17 Onid ydych chwi yn deall eto, fod yr hyn oll sydd yn myned i mewn i'r genau, yn cilio i'r bola, ac y bwrir ef allan i'r geudy?
18 Eithr y pethau a ddeuant allan o'r genau, sydd yn dyfod allan o'r galon; a'r pethau hynny a halogant ddyn.
19 Canys o'r galon y mae meddyliau drwg yn dyfod allan, lladdiadau, torpriodasau, godinebau, lladradau, camdystiolaethau, cablau:
20 Dyma'r pethau sydd yn halogi dyn: eithr bwyta â dwylo heb olchi, ni haloga ddyn.
21 A'r Iesu a aeth oddi yno, ac a giliodd i dueddau Tyrus a Sidon.
22 Ac wele, gwraig o Ganaan a ddaeth o'r parthau hynny, ac a lefodd, gan ddywedyd wrtho, Trugarha wrthyf, O Arglwydd, Fab Dafydd: y mae fy merch yn ddrwg ei hwyl gan gythraul.
23 Eithr nid atebodd efe iddi un gair. A daeth ei ddisgyblion ato, ac a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Gollwng hi ymaith; canys y mae hi yn llefain ar ein hôl.
24 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Ni'm danfonwyd i ond at ddefaid colledig tŷ Israel.
25 Ond hi a ddaeth, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, cymorth fi.
26 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Nid da cymryd bara'r plant, a'i fwrw i'r cŵn.
27 Hithau a ddywedodd, Gwir yw, Arglwydd: canys y mae'r cŵn yn bwyta o'r briwsion sydd yn syrthio oddi ar fwrdd eu harglwyddi.
28 Yna yr atebodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrthi, Ha wraig, mawr yw dy ffydd: bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio. A'i merch a iachawyd o'r awr honno allan.
29 A'r Iesu a aeth oddi yno, ac a ddaeth gerllaw môr Galilea; ac a esgynnodd i'r mynydd, ac a eisteddodd yno.
30 A daeth ato dorfeydd lawer, a chanddynt gyda hwynt gloffion, deillion, mudion, anafusion, ac eraill lawer: a hwy a'u bwriasant i lawr wrth draed yr Iesu, ac efe a'u hiachaodd hwynt:
31 Fel y rhyfeddodd y torfeydd, wrth weled y mudion yn llefaru, y rhai anafus yn iach, y cloffion yn rhodio, a'r deillion yn gweled: a hwy a ogoneddasant Dduw Israel.
32 A galwodd yr Iesu ei ddisgyblion ato, ac a ddywedodd, Yr ydwyf yn tosturio wrth y dyrfa; canys y maent yn aros gyda mi dridiau weithian, ac nid oes ganddynt ddim i'w fwyta: ac nid ydwyf yn ewyllysio eu gollwng hwynt ymaith ar eu cythlwng, rhag eu llewygu ar y ffordd.
33 A'i ddisgyblion a ddywedent wrtho, O ba le y caem ni gymaint o fara yn y diffeithwch, fel y digonid tyrfa gymaint?
34 A'r Iesu a ddywedai wrthynt, Pa sawl torth sydd gennych? A hwy a ddywedasant, Saith, ac ychydig bysgod bychain.
35 Ac efe a orchmynnodd i'r torfeydd eistedd ar y ddaear.
36 A chan gymryd y saith dorth, a'r pysgod, a diolch, efe a'u torrodd, ac a'u rhoddodd i'w ddisgyblion, a'r disgyblion i'r dyrfa.
37 A hwy oll a fwytasant, ac a gawsant eu digon; ac a godasant o'r briwfwyd oedd yng ngweddill, saith fasgedaid yn llawn.
38 A'r rhai a fwytasant oedd bedair mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant.
39 Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ymaith, efe a aeth i long, ac a ddaeth i barthau Magdala.