1 Y pryd hwnnw y clybu Herod y tetrarch sôn am yr Iesu;
2 Ac efe a ddywedodd wrth ei weision, Hwn yw Ioan Fedyddiwr: efe a gyfododd o feirw; ac am hynny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef.
3 Canys Herod a ddaliasai Ioan, ac a'i rhwymasai, ac a'i dodasai yng ngharchar, oblegid Herodias, gwraig Phylip ei frawd ef.
4 Canys Ioan a ddywedodd wrtho, Nid cyfreithlon i ti ei chael hi.
5 Ac efe yn ewyllysio ei roddi ef i farwolaeth, a ofnodd y dyrfa; canys hwy a'i cymerent ef megis proffwyd.
6 Eithr pan gadwyd dydd genedigaeth Herod, y dawnsiodd merch Herodias ger eu bron hwy, ac a ryngodd fodd Herod.
7 O ba herwydd efe a addawodd, trwy lw, roddi iddi beth bynnag a ofynnai.
8 A hithau, wedi ei rhagddysgu gan ei mam, a ddywedodd, Dyro i mi yma ben Ioan Fedyddiwr mewn dysgl.
9 A'r brenin a fu drist ganddo: eithr oherwydd y llw, a'r rhai a eisteddent gydag ef wrth y ford, efe a orchmynnodd ei roi ef iddi.
10 Ac efe a anfonodd, ac a dorrodd ben Ioan yn y carchar.
11 A ducpwyd ei ben ef mewn dysgl, ac a'i rhoddwyd i'r llances: a hi a'i dug ef i'w mam.
12 A'i ddisgyblion ef a ddaethant, ac a gymerasant ei gorff ef, ac a'i claddasant; ac a aethant, ac a fynegasant i'r Iesu.
13 A phan glybu'r Iesu, efe a ymadawodd oddi yno mewn llong i anghyfanheddle o'r neilltu: ac wedi clywed o'r torfeydd, hwy a'i canlynasant ef ar draed allan o'r dinasoedd.
14 A'r Iesu a aeth allan, ac a welodd dyrfa fawr, ac a dosturiodd wrthynt; ac efe a iachaodd eu cleifion hwynt.
15 Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth ei ddisgyblion ato, gan ddywedyd, Y lle sydd anghyfannedd, a'r awr a aeth weithian heibio: gollwng y dyrfa ymaith, fel yr elont i'r pentrefi, ac y prynont iddynt fwyd.
16 A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid iddynt fyned ymaith: rhoddwch chwi iddynt beth i'w fwyta.
17 A hwy a ddywedasant wrtho, Nid oes gennym ni yma ond pum torth, a dau bysgodyn.
18 Ac efe a ddywedodd, Dygwch hwynt yma i mi.
19 Ac wedi gorchymyn i'r torfeydd eistedd ar y gwelltglas, a chymryd y pum torth a'r ddau bysgodyn, efe a edrychodd i fyny tua'r nef, ac a fendithiodd, ac a dorrodd; ac a roddes y torthau i'r disgyblion, a'r disgyblion i'r torfeydd.
20 A hwynt oll a fwytasant, ac a gawsant eu digon: ac a godasant o'r briwfwyd oedd yng ngweddill, ddeuddeg basgedaid yn llawn.
21 A'r rhai a fwytasent oedd ynghylch pum mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant.
22 Ac yn y fan y gyrrodd yr Iesu ei ddisgyblion i fyned i'r llong, ac i fyned i'r lan arall o'i flaen ef, tra fyddai efe yn gollwng y torfeydd ymaith.
23 Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ymaith, efe a esgynnodd i'r mynydd wrtho ei hun, i weddïo: ac wedi ei hwyrhau hi, yr oedd efe yno yn unig.
24 A'r llong oedd weithian yng nghanol y môr, yn drallodus gan donnau: canys gwynt gwrthwynebus ydoedd.
25 Ac yn y bedwaredd wylfa o'r nos yr aeth yr Iesu atynt, gan rodio ar y môr.
26 A phan welodd y disgyblion ef yn rhodio ar y môr, dychrynasant, gan ddywedyd, Drychiolaeth ydyw. A hwy a waeddasant rhag ofn.
27 Ac yn y man y llefarodd yr Iesu wrthynt, gan ddywedyd, Cymerwch gysur: myfi ydyw; nac ofnwch.
28 A Phedr a'i hatebodd, ac a ddywedodd, O Arglwydd, os tydi yw, arch i mi ddyfod atat ar y dyfroedd.
29 Ac efe a ddywedodd, Tyred. Ac wedi i Pedr ddisgyn o'r llong, efe a rodiodd ar y dyfroedd, i ddyfod at yr Iesu.
30 Ond pan welodd ef y gwynt yn gryf, efe a ofnodd: a phan ddechreuodd suddo, efe a lefodd, gan ddywedyd, Arglwydd, cadw fi.
31 Ac yn y man yr estynnodd yr Iesu ei law, ac a ymaflodd ynddo ef, ac a ddywedodd wrtho, Tydi o ychydig ffydd, paham y petrusaist?
32 A phan aethant hwy i mewn i'r llong, peidiodd y gwynt.
33 A daeth y rhai oedd yn y llong, ac a'i haddolasant ef, gan ddywedyd, Yn wir Mab Duw ydwyt ti.
34 Ac wedi iddynt fyned trosodd, hwy a ddaethant i dir Gennesaret.
35 A phan adnabu gwŷr y fan honno ef, hwy a anfonasant i'r holl wlad honno o amgylch, ac a ddygasant ato y rhai oll oedd mewn anhwyl;
36 Ac a atolygasant iddo gael cyffwrdd yn unig ag ymyl ei wisg ef: a chynifer ag a gyffyrddodd, a iachawyd.