12 A phan ddeloch i dŷ, cyferchwch well iddo.
13 Ac os bydd y tŷ yn deilwng, deued eich tangnefedd arno: ac oni bydd yn deilwng, dychweled eich tangnefedd atoch.
14 A phwy bynnag ni'ch derbynio chwi, ac ni wrandawo eich geiriau, pan ymadawoch o'r tŷ hwnnw, neu o'r ddinas honno, ysgydwch y llwch oddi wrth eich traed.
15 Yn wir meddaf i chwi, Esmwythach fydd i dir y Sodomiaid a'r Gomoriaid yn nydd y farn, nag i'r ddinas honno.
16 Wele, yr ydwyf fi yn eich danfon fel defaid yng nghanol bleiddiaid; byddwch chwithau gall fel y seirff, a diniwed fel y colomennod.
17 Eithr ymogelwch rhag dynion; canys hwy a'ch rhoddant chwi i fyny i'r cynghorau, ac a'ch ffrewyllant chwi yn eu synagogau.
18 A chwi a ddygir at lywiawdwyr a brenhinoedd o'm hachos i, er tystiolaeth iddynt hwy ac i'r Cenhedloedd.