20 Canys nid chwychwi yw'r rhai sydd yn llefaru, ond Ysbryd eich Tad yr hwn sydd yn llefaru ynoch.
21 A brawd a rydd frawd i fyny i farwolaeth, a thad ei blentyn: a phlant a godant i fyny yn erbyn eu rhieni, ac a barant eu marwolaeth hwynt.
22 A chas fyddwch gan bawb er mwyn fy enw i: ond yr hwn a barhao hyd y diwedd, efe fydd cadwedig.
23 A phan y'ch erlidiant yn y ddinas hon, ffowch i un arall: canys yn wir y dywedaf wrthych, Na orffennwch ddinasoedd Israel, nes dyfod Mab y dyn.
24 Nid yw'r disgybl yn uwch na'i athro, na'r gwas yn uwch na'i arglwydd.
25 Digon i'r disgybl fod fel ei athro, a'r gwas fel ei arglwydd. Os galwasant berchen y tŷ yn Beelsebub, pa faint mwy ei dylwyth ef?
26 Am hynny nac ofnwch hwynt: oblegid nid oes dim cuddiedig, a'r nas datguddir; na dirgel, a'r nas gwybyddir.