25 Digon i'r disgybl fod fel ei athro, a'r gwas fel ei arglwydd. Os galwasant berchen y tŷ yn Beelsebub, pa faint mwy ei dylwyth ef?
26 Am hynny nac ofnwch hwynt: oblegid nid oes dim cuddiedig, a'r nas datguddir; na dirgel, a'r nas gwybyddir.
27 Yr hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthych chwi yn y tywyllwch, dywedwch yn y goleuni: a'r hyn a glywch yn y glust, pregethwch ar bennau'r tai.
28 Ac nac ofnwch rhag y rhai a laddant y corff, ac ni allant ladd yr enaid; eithr yn hytrach ofnwch yr hwn a ddichon ddistrywio enaid a chorff yn uffern.
29 Oni werthir dau aderyn y to er ffyrling? ac ni syrth un ohonynt ar y ddaear heb eich Tad chwi.
30 Ac y mae, ie, holl wallt eich pen wedi eu cyfrif.
31 Nac ofnwch gan hynny: chwi a delwch fwy na llawer o adar y to.