3 Philip, a Bartholomeus; Thomas, a Mathew y publican; Iago mab Alffeus, a Lebeus, yr hwn a gyfenwid Thadeus;
4 Simon y Canaanead, a Jwdas Iscariot, yr hwn hefyd a'i bradychodd ef.
5 Y deuddeg hyn a anfonodd yr Iesu, ac a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Nac ewch i ffordd y Cenhedloedd, ac i ddinas y Samariaid nac ewch i mewn:
6 Eithr ewch yn hytrach at gyfrgolledig ddefaid tŷ Israel.
7 Ac wrth fyned, pregethwch, gan ddywedyd, Fod teyrnas nefoedd yn nesáu.
8 Iachewch y cleifion, glanhewch y rhai gwahanglwyfus, cyfodwch y meirw, bwriwch allan gythreuliaid: derbyniasoch yn rhad, rhoddwch yn rhad.
9 Na feddwch aur, nac arian, nac efydd i'ch pyrsau;