1 A bu, pan orffennodd yr Iesu orchymyn i'w ddeuddeg disgybl, efe a aeth oddi yno i ddysgu ac i bregethu yn eu dinasoedd hwy.
2 A Ioan, pan glybu yn y carchar weithredoedd Crist, wedi danfon dau o'i ddisgyblion,
3 A ddywedodd wrtho, Ai tydi yw'r hwn sydd yn dyfod, ai un arall yr ydym yn ei ddisgwyl?
4 A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, a mynegwch i Ioan y pethau a glywch ac a welwch.