10 Canys hwn ydyw efe am yr hwn yr ysgrifennwyd, Wele, yr ydwyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a baratoa dy ffordd o'th flaen.
11 Yn wir meddaf i chwi, Ymhlith plant gwragedd, ni chododd neb mwy nag Ioan Fedyddiwr: er hynny yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas nefoedd, sydd fwy nag ef.
12 Ac o ddyddiau Ioan Fedyddiwr hyd yn awr, yr ydys yn treisio teyrnas nefoedd, a threiswyr sydd yn ei chipio hi.
13 Canys yr holl broffwydi a'r gyfraith a broffwydasant hyd Ioan.
14 Ac os ewyllysiwch ei dderbyn, efe yw Eleias, yr hwn oedd ar ddyfod.
15 Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.
16 Eithr i ba beth y cyffelybaf fi'r genhedlaeth hon? Cyffelyb yw i blant yn eistedd yn y marchnadoedd, ac yn llefain wrth eu cyfeillion,