13 Canys yr holl broffwydi a'r gyfraith a broffwydasant hyd Ioan.
14 Ac os ewyllysiwch ei dderbyn, efe yw Eleias, yr hwn oedd ar ddyfod.
15 Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.
16 Eithr i ba beth y cyffelybaf fi'r genhedlaeth hon? Cyffelyb yw i blant yn eistedd yn y marchnadoedd, ac yn llefain wrth eu cyfeillion,
17 Ac yn dywedyd, Canasom bibell i chwi, ac ni ddawnsiasoch; canasom alarnad i chwi, ac ni chwynfanasoch.
18 Canys daeth Ioan heb na bwyta nac yfed; ac meddant, Y mae cythraul ganddo.
19 Daeth Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed; ac meddant, Wele ddyn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill publicanod a phechaduriaid. A doethineb a gyfiawnhawyd gan ei phlant ei hun.