26 Ie, O Dad; canys felly y rhyngodd fodd i ti.
27 Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhad: ac nid edwyn neb y Mab ond y Tad; ac nid edwyn neb y Tad ond y Mab, a'r hwn yr ewyllysio'r Mab ei ddatguddio iddo.
28 Deuwch ataf fi bawb a'r y sydd yn flinderog ac yn llwythog, a mi a esmwythâf arnoch.
29 Cymerwch fy iau arnoch, a dysgwch gennyf; canys addfwyn ydwyf, a gostyngedig o galon: a chwi a gewch orffwystra i'ch eneidiau:
30 Canys fy iau sydd esmwyth, a'm baich sydd ysgafn.