12 A'i ddisgyblion ef a ddaethant, ac a gymerasant ei gorff ef, ac a'i claddasant; ac a aethant, ac a fynegasant i'r Iesu.
13 A phan glybu'r Iesu, efe a ymadawodd oddi yno mewn llong i anghyfanheddle o'r neilltu: ac wedi clywed o'r torfeydd, hwy a'i canlynasant ef ar draed allan o'r dinasoedd.
14 A'r Iesu a aeth allan, ac a welodd dyrfa fawr, ac a dosturiodd wrthynt; ac efe a iachaodd eu cleifion hwynt.
15 Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth ei ddisgyblion ato, gan ddywedyd, Y lle sydd anghyfannedd, a'r awr a aeth weithian heibio: gollwng y dyrfa ymaith, fel yr elont i'r pentrefi, ac y prynont iddynt fwyd.
16 A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid iddynt fyned ymaith: rhoddwch chwi iddynt beth i'w fwyta.
17 A hwy a ddywedasant wrtho, Nid oes gennym ni yma ond pum torth, a dau bysgodyn.
18 Ac efe a ddywedodd, Dygwch hwynt yma i mi.