1 Ac wedi i'r Phariseaid a'r Sadwceaid ddyfod ato, a'i demtio, hwy a atolygasant iddo ddangos iddynt arwydd o'r nef.
2 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pan fyddo'r hwyr, y dywedwch, Tywydd teg; canys y mae'r wybr yn goch.
3 A'r bore, Heddiw drycin; canys y mae'r wybr yn goch ac yn bruddaidd. O ragrithwyr, chwi a fedrwch ddeall wyneb yr wybren; ac oni fedrwch arwyddion yr amserau?
4 Y mae cenhedlaeth ddrwg a godinebus yn ceisio arwydd; ac arwydd nis rhoddir iddi, ond arwydd y proffwyd Jonas. Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith.