14 A hwy a ddywedasant, Rhai, mai Ioan Fedyddiwr, a rhai, mai Eleias, ac eraill, mai Jeremeias, neu un o'r proffwydi.
15 Efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy meddwch chwi ydwyf fi?
16 A Simon Pedr a atebodd ac a ddywedodd, Ti yw'r Crist, Mab y Duw byw.
17 A'r Iesu gan ateb a ddywedodd wrtho, Gwyn dy fyd di, Simon mab Jona: canys nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn i ti, ond fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.
18 Ac yr ydwyf finnau yn dywedyd i ti, mai ti yw Pedr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys; a phyrth uffern nis gorchfygant hi.
19 A rhoddaf i ti agoriadau teyrnas nefoedd: a pha beth bynnag a rwymech ar y ddaear, a fydd rhwymedig yn y nefoedd; a pha beth bynnag a ryddhaech ar y ddaear, a fydd wedi ei ryddhau yn y nefoedd.
20 Yna y gorchmynnodd efe i'w ddisgyblion, na ddywedent i neb mai efe oedd Iesu Grist.