19 A rhoddaf i ti agoriadau teyrnas nefoedd: a pha beth bynnag a rwymech ar y ddaear, a fydd rhwymedig yn y nefoedd; a pha beth bynnag a ryddhaech ar y ddaear, a fydd wedi ei ryddhau yn y nefoedd.
20 Yna y gorchmynnodd efe i'w ddisgyblion, na ddywedent i neb mai efe oedd Iesu Grist.
21 O hynny allan y dechreuodd yr Iesu ddangos i'w ddisgyblion fod yn rhaid iddo fyned i Jerwsalem, a dioddef llawer gan yr henuriaid, a'r archoffeiriaid, a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, a chyfodi y trydydd dydd.
22 A Phedr, wedi ei gymryd ef ato, a ddechreuodd ei geryddu ef, gan ddywedyd, Arglwydd, trugarha wrthyt dy hun; ni bydd hyn i ti.
23 Ac efe a drodd, ac a ddywedodd wrth Pedr, Dos yn fy ôl i, Satan: rhwystr ydwyt ti i mi: am nad ydwyt yn synied y pethau sydd o Dduw, ond y pethau sydd o ddynion.
24 Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, Os myn neb ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a chanlyned fi.
25 Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei fywyd, a'i cyll: a phwy bynnag a gollo ei fywyd o'm plegid i, a'i caiff.