25 Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei fywyd, a'i cyll: a phwy bynnag a gollo ei fywyd o'm plegid i, a'i caiff.
26 Canys pa lesâd i ddyn, os ennill efe yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun? neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid?
27 Canys Mab y dyn a ddaw yng ngogoniant ei Dad gyda'i angylion; ac yna y rhydd efe i bawb yn ôl ei weithred.
28 Yn wir y dywedaf wrthych, Y mae rhai o'r sawl sydd yn sefyll yma, a'r ni phrofant angau, hyd oni welont Fab y dyn yn dyfod yn ei frenhiniaeth.