4 Y mae cenhedlaeth ddrwg a godinebus yn ceisio arwydd; ac arwydd nis rhoddir iddi, ond arwydd y proffwyd Jonas. Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith.
5 Ac wedi dyfod ei ddisgyblion ef i'r lan arall, hwy a ollyngasent dros gof gymryd bara ganddynt.
6 A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Edrychwch ac ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid a'r Sadwceaid.
7 A hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Hyn sydd am na chymerasom fara gennym.
8 A'r Iesu yn gwybod, a ddywedodd wrthynt, Chwychwi o ychydig ffydd, paham yr ydych yn ymresymu yn eich plith eich hunain, am na chymerasoch fara gyda chwi?
9 Onid ydych chwi yn deall eto, nac yn cofio pum torth y pum mil, a pha sawl basgedaid a gymerasoch i fyny?
10 Na saith dorth y pedair mil, a pha sawl cawellaid a gymerasoch i fyny?