8 A'r Iesu yn gwybod, a ddywedodd wrthynt, Chwychwi o ychydig ffydd, paham yr ydych yn ymresymu yn eich plith eich hunain, am na chymerasoch fara gyda chwi?
9 Onid ydych chwi yn deall eto, nac yn cofio pum torth y pum mil, a pha sawl basgedaid a gymerasoch i fyny?
10 Na saith dorth y pedair mil, a pha sawl cawellaid a gymerasoch i fyny?
11 Pa fodd nad ydych yn deall, nad am fara y dywedais wrthych, ar ymogelyd rhag surdoes y Phariseaid a'r Sadwceaid?
12 Yna y deallasant na ddywedasai efe am ymogelyd rhag surdoes bara, ond rhag athrawiaeth y Phariseaid a'r Sadwceaid.
13 Ac wedi dyfod yr Iesu i dueddau Cesarea Philipi, efe a ofynnodd i'w ddisgyblion, gan ddywedyd, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i, Mab y dyn?
14 A hwy a ddywedasant, Rhai, mai Ioan Fedyddiwr, a rhai, mai Eleias, ac eraill, mai Jeremeias, neu un o'r proffwydi.