11 Canys daeth Mab y dyn i gadw'r hyn a gollasid.
12 Beth dybygwch chwi? O bydd gan ddyn gant o ddefaid, a myned o un ohonynt ar ddisberod; oni ad efe y namyn un cant, a myned i'r mynyddoedd, a cheisio'r hon a aeth ar ddisberod?
13 Ac os bydd iddo ei chael hi, yn wir meddaf i chwi, y mae yn llawenhau am honno mwy nag am y namyn un cant y rhai nid aethant ar ddisberod.
14 Felly nid yw ewyllys eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd, gyfrgolli'r un o'r rhai bychain hyn.
15 Ac os pecha dy frawd i'th erbyn, dos, ac argyhoedda ef rhyngot ti ac ef ei hun. Os efe a wrendy arnat, ti a enillaist dy frawd.
16 Ac os efe ni wrendy, cymer gyda thi eto un neu ddau, fel yng ngenau dau neu dri o dystion y byddo pob gair yn safadwy.
17 Ac os efe ni wrendy arnynt hwy, dywed i'r eglwys: ac os efe ni wrendy ar yr eglwys chwaith, bydded ef i ti megis yr ethnig a'r publican.