2 A'r Iesu a alwodd ato fachgennyn, ac a'i gosododd yn eu canol hwynt;
3 Ac a ddywedodd, Yn wir y dywedaf i chwi, Oddieithr eich troi chwi, a'ch gwneuthur fel plant bychain, nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas nefoedd.
4 Pwy bynnag gan hynny a'i gostyngo ei hunan fel y bachgennyn hwn, hwnnw yw'r mwyaf yn nheyrnas nefoedd.
5 A phwy bynnag a dderbynio gyfryw fachgennyn yn fy enw i, a'm derbyn i.
6 A phwy bynnag a rwystro un o'r rhai bychain hyn a gredant ynof fi, da fyddai iddo pe crogid maen melin am ei wddf, a'i foddi yn eigion y môr.
7 Gwae'r byd oblegid rhwystrau! canys anghenraid yw dyfod rhwystrau; er hynny gwae'r dyn hwnnw drwy'r hwn y daw'r rhwystr!
8 Am hynny os dy law neu dy droed a'th rwystra, tor hwynt ymaith, a thafl oddi wrthyt: gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn gloff, neu yn anafus, nag a chennyt ddwy law, neu ddau droed, dy daflu i'r tân tragwyddol.