24 A phan ddechreuodd gyfrif, fe a ddygwyd ato un a oedd yn ei ddyled ef o ddeng mil o dalentau.
25 A chan nad oedd ganddo ddim i dalu, gorchmynnodd ei arglwydd ei werthu ef, a'i wraig, a'i blant, a chwbl a'r a feddai, a thalu'r ddyled.
26 A'r gwas a syrthiodd i lawr, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti'r cwbl oll.
27 Ac arglwydd y gwas hwnnw a dosturiodd wrtho, ac a'i gollyngodd, ac a faddeuodd iddo'r ddyled.
28 Ac wedi myned o'r gwas hwnnw allan, efe a gafodd un o'i gyd‐weision, yr hwn oedd yn ei ddyled ef o gan ceiniog: ac efe a ymaflodd ynddo, ac a'i llindagodd, gan ddywedyd, Tâl i mi yr hyn sydd ddyledus arnat.
29 Yna y syrthiodd ei gyd‐was wrth ei draed ef, ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti'r cwbl oll.
30 Ac nis gwnâi efe; ond myned a'i fwrw ef yng ngharchar, hyd oni thalai yr hyn oedd ddyledus.