4 Pwy bynnag gan hynny a'i gostyngo ei hunan fel y bachgennyn hwn, hwnnw yw'r mwyaf yn nheyrnas nefoedd.
5 A phwy bynnag a dderbynio gyfryw fachgennyn yn fy enw i, a'm derbyn i.
6 A phwy bynnag a rwystro un o'r rhai bychain hyn a gredant ynof fi, da fyddai iddo pe crogid maen melin am ei wddf, a'i foddi yn eigion y môr.
7 Gwae'r byd oblegid rhwystrau! canys anghenraid yw dyfod rhwystrau; er hynny gwae'r dyn hwnnw drwy'r hwn y daw'r rhwystr!
8 Am hynny os dy law neu dy droed a'th rwystra, tor hwynt ymaith, a thafl oddi wrthyt: gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn gloff, neu yn anafus, nag a chennyt ddwy law, neu ddau droed, dy daflu i'r tân tragwyddol.
9 Ac os dy lygad a'th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddi wrthyt: gwell yw i ti yn unllygeidiog fyned i mewn i'r bywyd, nag a dau lygad gennyt dy daflu i dân uffern.
10 Edrychwch na ddirmygoch yr un o'r rhai bychain hyn: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, fod eu hangylion hwy yn y nefoedd bob amser yn gweled wyneb fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.