1 Aphan ddaethant yn gyfagos i Jerwsalem, a'u dyfod hwy i Bethffage, i fynydd yr Olewydd, yna yr anfonodd yr Iesu ddau ddisgybl,
2 Gan ddywedyd wrthynt, Ewch i'r pentref sydd ar eich cyfer, ac yn y man chwi a gewch asen yn rhwym, ac ebol gyda hi: gollyngwch hwynt, a dygwch ataf fi.
3 Ac os dywed neb ddim wrthych, dywedwch, Y mae'n rhaid i'r Arglwydd wrthynt: ac yn y man efe a'u denfyn hwynt.
4 A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy'r proffwyd, yn dywedyd,
5 Dywedwch i ferch Seion, Wele, dy frenin yn dyfod i ti, yn addfwyn, ac yn eistedd ar asen, ac ebol llwdn asen arferol â'r iau.
6 Y disgyblion a aethant, ac a wnaethant fel y gorchmynasai'r Iesu iddynt.
7 A hwy a ddygasant yr asen a'r ebol, ac a ddodasant eu dillad arnynt, ac a'i gosodasant ef i eistedd ar hynny.