12 A'r Iesu a aeth i mewn i deml Dduw, ac a daflodd allan bawb a'r oedd yn gwerthu ac yn prynu yn y deml, ac a ddymchwelodd i lawr fyrddau'r newidwyr arian, a chadeiriau'r rhai oedd yn gwerthu colomennod:
13 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ysgrifennwyd, Tŷ gweddi y gelwir fy nhŷ i; eithr chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron.
14 A daeth y deillion a'r cloffion ato yn y deml; ac efe a'u hiachaodd hwynt.
15 A phan welodd yr archoffeiriaid a'r ysgrifenyddion y rhyfeddodau a wnaethai efe, a'r plant yn llefain yn y deml, ac yn dywedyd, Hosanna i fab Dafydd; hwy a lidiasant,
16 Ac a ddywedasant wrtho, A wyt ti yn clywed beth y mae'r rhai hyn yn ei ddywedyd? A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ydwyf. Oni ddarllenasoch chwi erioed, O enau plant bychain a rhai yn sugno y perffeithiaist foliant?
17 Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth allan o'r ddinas i Fethania, ac a letyodd yno.
18 A'r bore, fel yr oedd efe yn dychwelyd i'r ddinas, yr oedd arno chwant bwyd.