15 A phan welodd yr archoffeiriaid a'r ysgrifenyddion y rhyfeddodau a wnaethai efe, a'r plant yn llefain yn y deml, ac yn dywedyd, Hosanna i fab Dafydd; hwy a lidiasant,
16 Ac a ddywedasant wrtho, A wyt ti yn clywed beth y mae'r rhai hyn yn ei ddywedyd? A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ydwyf. Oni ddarllenasoch chwi erioed, O enau plant bychain a rhai yn sugno y perffeithiaist foliant?
17 Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth allan o'r ddinas i Fethania, ac a letyodd yno.
18 A'r bore, fel yr oedd efe yn dychwelyd i'r ddinas, yr oedd arno chwant bwyd.
19 A phan welodd efe ffigysbren ar y ffordd, efe a ddaeth ato, ac ni chafodd ddim arno, ond dail yn unig: ac efe a ddywedodd wrtho, Na thyfed ffrwyth arnat byth mwyach. Ac yn ebrwydd y crinodd y ffigysbren.
20 A phan welodd y disgyblion, hwy a ryfeddasant, gan ddywedyd, Mor ddisymwth y crinodd y ffigysbren!
21 A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Os bydd gennych ffydd, ac heb amau, ni wnewch yn unig hyn a wneuthum i i'r ffigysbren, eithr hefyd os dywedwch wrth y mynydd hwn, Coder di i fyny, a bwrier di i'r môr; hynny a fydd.